Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 26(2)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2019 Rhif (Cy. )
BWYD, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, Cymru
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafbris y mae alcohol i’w gyflenwi amdano gan fanwerthwyr alcohol o fangreoedd cymhwysol yng Nghymru i berson yng Nghymru, ac mae’n sefydlu cyfundrefn orfodi a arweinir gan yr awdurdod lleol.
Mae adran 1 o Ddeddf 2018 yn nodi’r fformiwla sydd i’w chymhwyso wrth gyfrifo’r isafbris cymwys at y diben hwn. Y fformiwla honno yw I x Cr x Cy.
I yw’r isafbris uned a bennir mewn rheoliadau; Cr yw cryfder yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol (felly er enghraifft os yw’r cryfder yn 5%, 5 fydd y rhif prifol perthnasol); a Cy yw cyfaint yr alcohol mewn litrau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu mai’r isafbris uned (I) at ddibenion Deddf 2018 yw £0.50.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1) sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a rheolau ar Wasanaethau’r Cymdeithasau Gwybodaeth.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 26(2)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2019 Rhif (Cy. )
BWYD, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, cymru
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019
Gwnaed ***
Yn dod i rym ***
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1)(a) a 26 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([2]).
Yn unol ag adran 26(2)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Mawrth 2020.
Yr isafbris uned
2. Yr isafbris uned at ddibenion adran 1(1)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yw £0.50.
Enw
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad